British Broadcasting Corporation
pont Watergate, Aberhonddu Syrthiodd y fenyw i'r dŵr ger pont Watergate, Aberhonddu
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod yn chwilio am fenyw 21 oed a syrthiodd i'r afon Wysg nos Sadwrn.
Yn ôl llygad dystion, syrthiodd y fenyw i'r dŵr tua 7pm ger pont Watergate, Aberhonddu.
Mae swyddogion wedi bod yn defnyddio cŵn, unedau arbennig a hofrennydd i chwilio amdani.
Mae'r gwaith wedi ail gychwyn bore Sul - bu'n rhaid iddyn nhw roi'r gorau i'w hymdrech nos Sadwrn oherwydd y tywydd garw.
Mae'r heddlu yn apelio ar y cyhoedd i beidio â mynd yn agos at lan yr afon gan ei bod mor llithrig.
Yn y cyfamser mae tri rhybudd am lifogydd yn parhau mewn grym yng Nghymru a disgwyl glaw ddydd Sul a dydd Llun.
Mae rhybudd llifogydd yn yr ardaloedd canlynol:
Yn ne-orllewin Lloegr mae canwiwr profiadol wedi ei ladd ar ôl cael ei ddal mewn llif nerthol mewn afon yn Dartmoor.
Yn y cyfamser yn swydd Cumbria mae profion diogelwch yn cael eu cynnal ar 1800 o bontydd ar ôl llifogydd difrifol y dyddiau diwethaf.
Mae'r gwasanaethau brys yn disgwyl i seithfed pont yn y sir syrthio'n fuan ar ôl pedwar diwrnod o law trwm.
Mae Gordon Brown wedi addo miliwn o bunnau i helpu pobl ardal Cumbria. Wrth ymweld â gogledd orllewin Lloegr ddydd Sadwrn fe ddiolchodd y prif weinidog i'r gwasanaethau brys, ac fe dalodd deyrnged i'r cwnstabl Bill Barker a foddodd ar ôl i bont gwympo.
Bu hofrennydd y Llu Awyr o'r Fali yn cynorthwyo'r gwaith achub yn Cumbria yn ogystal ag aelodau Sefydliad y Bad Achub o Gricieth, Conwy, Llandudno, Moelfre, Rhyl, Biwmares, Pwllheli a'r Fflint.
Bore Gwener fe gafodd y gwasanaeth tân ei alw am fod dau dŷ ar Stryd y Farchnad yn Llanberis o dan ddŵr. Roedd un o dan chwe modfedd o ddŵr.
Roedd tai hefyd o dan ddŵr ym Murwen, Amlwch, ac yng Ngharmel ger Caernarfon, Brynrefail a Phistyll, Pwllheli.
Quantcast
BBC © MMX
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.